Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 10 Mehefin 2019 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.35 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2019(4) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Siân Gwenllian AC David J Rowlands AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Nerys Evans, Pennaeth y Gwasanaeth, Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau Kevin Tumelty, Pennaeth Diogelwch Mair Parry-Jones, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi Sarah Dafydd, Rheolwr Newid a Gwella Busnes Gareth Watts, Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd Carys Rees, Rheolwr Dysgu ac Ymgysylltu a’r Aelodau Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.2 Datgan buddiannau
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Ebrill.
2 Strategaeth Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2020-21
Parhaodd y Comisiynwyr i ystyried eu cynigion ar gyfer strategaeth y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21.
Y ddau brif faes a drafodwyd oedd gofyniad cyffredinol y gyllideb ar gyfer 2020-21; gan gynnwys effaith cyllideb atodol gyntaf 2019-20 ar gostau pensiwn; a blaenoriaethau buddsoddi newydd y Comisiwn ar gyfer 2020-21. Trafodwyd nifer o themâu gan gynnwys archifo, y wefan a gweithgareddau ymgysylltu.
Caiff cynigion ar gyfer y gyllideb eu gosod, yn unol â’r Rheolau Sefydlog, ym mis Medi.
3 Diwygio’r Cynulliad – y wybodaeth ddiweddaraf
Trafododd y Comisiwn y trefniadau ar gyfer ymateb i adroddiadau pwyllgor yn y dyfodol sy’n ymwneud â Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Cytunodd y Comisiynwyr mai’r Llywydd sydd i benderfynu ar y dull a’r amserlen ar gyfer ymateb i adroddiadau pwyllgorau ac y trafodir ymhellach â hwy cyn y ddadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn.
O ran trefniadau ariannu’r Comisiwn Etholiadol ac atebolrwydd y sefydliad, trafododd y Comisiynwyr y dull arfaethedig a nodwyd y cyngor. Roeddent yn cytuno y dylai’r Llywydd, mewn ymgynghoriad â Suzy Davies a chan ystyried safbwyntiau a fynegwyd gan y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn nhrafodion Cyfnod 1, fynd ati i drafod â’r Cwnsler Cyffredinol i gymeradwyo’r dull.
O ran gwaith pellach ar ddiwygio’r Cynulliad, yn ymwneud â maint y Cynulliad a diwygio’r system etholiadol, penderfynodd y Comisiynwyr nad oedd yn bosibl deddfu yn y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, byddai’r gwaith o ystyried materion sy’n ymwneud â maint y Cynulliad a sut y dylid ethol Aelodau yn parhau er mwyn hwyluso’r ddadl gyhoeddus a chynorthwyo’r pleidiau gwleidyddol wrth iddynt ystyried eu barn ar y materion hyn.
4 Diogelwch ffisegol
Rhoddwyd diweddariad i’r Comisiynwyr am ddatblygiad arfaethedig protocolau diogelwch, a materion sydd wedi codi’n ddiweddar mewn cysylltiad â diogelwch. Byddai gwybodaeth yn cael ei darparu i’r Comisiynwyr ei hystyried ac yna ei rhannu gyda’u grwpiau.
Trafododd y Comisiynwyr gynigion i wneud gwelliannau i wella trefniadau diogelwch yn y mannau mynediad cyhoeddus yn y Senedd a Thŷ Hywel, a chytunwyd arnynt, gan gynnwys hynny yn y gwaith o gynllunio’r gyllideb.
5 Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Mae’n ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad “osod adroddiad gerbron y Cynulliad yn nodi sut y mae’r Comisiwn, yn ystod y flwyddyn dan sylw, wedi rhoi effaith i’r Cynllun” - Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012.
Adolygodd y Comisiynwyr adroddiad yn trafod y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwnaethant geisio sicrwydd ynghylch y ffordd y mae’r cynllun yn gweithredu mewn perthynas â recriwtio, a thrafodwyd cyfleoedd i gymryd rhan yn rhaglen Common Voice Mozilla i gasglu recordiadau o bobl yn siarad i helpu i ddysgu peiriannau sut mae pobl yn siarad yn Gymraeg.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau, cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn.
6 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft Comisiwn y Cynulliad 2018-19
Trafododd y Comisiynwyr fersiwn ddrafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Mawrth 2019, ac roeddent yn fodlon ar yr hyn a welwyd.
Bydd y fersiwn derfynol i’w chymeradwyo ym mis Gorffennaf, ac yna caiff ei gosod erbyn diwedd tymor yr haf. Bydd ar gael ar-lein.
7 Canlyniadau arolwg yr Aelodau a’u staff cymorth 2019
Rhoddwyd crynodeb i’r Comisiynwyr o Arolwg Aelodau’r Cynulliad a’u Staff Cymorth 2019. Yn unol â phenderfyniad y Comisiwn yn 2018, roedd yr arolwg eleni yn fyrrach ac yn bennaf roedd yn casglu data meintiol i ganiatáu ar gyfer cymariaethau a monitro perfformiad o flwyddyn i flwyddyn.
Nododd y Comisiynwyr ganfyddiadau’r Arolwg, a chytunwyd i’w rannu â’r Aelodau a’u staff yn ddiweddarach y mis hwn.
8 Papurau i’w nodi:
8.1 Adroddiad blynyddol y Pwyllgor Taliadau
Nododd y Comisiwn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Taliadau.
8.2 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid
Nododd y Comisiynwyr lythyr a anfonwyd at Suzy Davies gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch y Cynllun Ymadael Gwirfoddol.
8.3 Y wybodaeth ddiweddaraf am yr ugainmlwyddiant
Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau i nodi 20 mlwyddiant y Cynulliad. Byddai diweddariad arall cyn toriad yr haf ynglŷn â digwyddiadau’r hydref.
8.4 Cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ym mis Mawrth
Nodwyd cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ym mis Mawrth.
9 Unrhyw fater arall
· Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am achos Tribiwnlys Cyflogaeth sy’n mynd rhagddo.
· Nododd y Comisiynwyr lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas ag ystyriaeth y Pwyllgor o gynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf roedd y Comisiynwyr wedi cytuno ar ymatebion i’r Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â chraffu ar ôl deddfu ac Ariannu cyrff a ariennir yn uniongyrchol, i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas ag argymhellion o ran craffu ar y Gyllideb ac i Ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau ar y Penderfyniad (ynghyd ag egwyddorion cysylltiedig ar gyfer teithio gan y Comisiwn).